Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol  

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)  – Ystyriaeth Cyfnod 1 

At:                                  Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Oddi wrth:                     Y Swyddfa Ddeddfwriaeth  
Dyddiad y cyfarfod:      30 Mai 2012

Diben

1.       Gwahodd y Pwyllgor i ystyried a chytuno ar ffordd ymlaen ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) (‘y Bil’) a’r fframwaith ar ei gyfer.

Cefndir

 

2.       Ar 15 Mai 2012, cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (‘y Pwyllgor’), gyda 5 Hydref 2012 fel dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad arno. 

 

3.       Ar 28 Mai 2012, cyflwynodd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Bil a’r Memorandwm Esboniadol.

 

4.       Darparwyd papur yn amlinellu diben a darpariaethau’r Bil ar wahân.   

Rôl y Pwyllgor

 

5.       Rôl y Pwyllgor yng Nghyfnod 1 yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chyflwyno adroddiad arnynt (Rheol Sefydlog 26.10). Nid oes unrhyw ofynion penodol mewn Rheolau Sefydlog sy’n llywodraethu’r ffordd y mae’r Pwyllgor yn gwneud y gwaith craffu hwn.  Awgrymir dull isod, ynghyd â fframwaith awgrymedig y bydd y Pwyllgor yn gweithio oddi mewn iddo.

 

6.       Ar ôl i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad, bydd dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn er mwyn i’r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Os caiff yr egwyddorion cyffredinol eu cytuno, bydd Cyfnod 2 y broses yn golygu bod y Pwyllgor yn ystyried y Bil yn fanwl, gan gynnwys gwaredu gwelliannau (bwriedir i Gyfnod 2 ddigwydd yn ystod mis Tachwedd ar hyn o bryd).  

 

Fframwaith awgrymedig

 

7.       Wrth graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1, awgrymir bod y Pwyllgor yn gweithio o fewn y fframwaith canlynol:


Ystyried:

 

i)     yr angen am Fil i gyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd statudol yng Nghymru;

ii)   a yw’r Bil yn cyflawni ei amcanion datganedig;

iii)  y darpariaethau allweddol a amlinellir yn y Bil ac a ydynt yn briodol er mwyn cyflawni’r amcanion; 

iv)  rhwystrau posibl rhag gweithredu’r darpariaethau allweddol ac a yw’r Bil yn ystyried y rhwystrau hyn;

v)    a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil;

vi)  barn rhanddeiliaid a fydd yn gorfod gweithio gyda’r trefniadau newydd.

Agwedd y Pwyllgor tuag at waith craffu Cyfnod 1

 

8.       Yn unol â’r dyddiad cau a nodwyd gan y Pwyllgor Busnes, bydd angen i’r pwyllgor gwblhau ei waith craffu ar y Bil a gosod ei adroddiad gerbron erbyn 5 Hydref 2012 fan bellaf.

 

9.       Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad yn caniatáu naw wythnos o amser cyfarfod y Cynulliad i wneud y gwaith hwn, er y bydd yn rhaid ei wneud ochr yn ochr â’r gwaith polisi y cytunwyd arno eisoes gan y Pwyllgor. Mae’r Aelodau wedi cael y rhaglen waith ar gyfer y tymor hwn, sy’n cynnwys y slotiau a neilltuwyd ar gyfer craffu ar y Bil.

 

10.     Awgrymir bod y Pwyllgor yn cytuno ar y dull canlynol —

 

§   Galwad gyffredinol am dystiolaeth
Cyhoeddi galwad gyffredinol am dystiolaeth, a fyddai’n cael ei hysbysu i’r cyfryngau yng Nghymru a’i chyhoeddi ar wefan y Cynulliad.  Mae’r llythyr ymgynghori drafft a rhestr o’r cwestiynau ymgynghori drafft ynghlwm yn Atodiad 1.

 

§   Gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig
Gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig gan sefydliadau ac unigolion a ddewiswyd. Mae rhestr awgrymedig o ymgyngoreion ynghlwm yn  Atodiad  3.

 

§   Tystiolaeth lafar
Gwahodd rhanddeiliaid allweddol i roi tystiolaeth lafar mewn cyfarfodydd yn y dyfodol (ochr yn ochr â’r ymarfer ymgynghori). Mae rhestr dros dro o dystion o’r sectorau perthnasol ynghlwm yn Atodiad 4.

 

§   Allgymorth  

Defnyddio Tîm Allgymorth y Cynulliad i ymgysylltu ag adran o’r cyhoedd er mwyn mesur barn ar y Bil.

 

11.     Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad yn caniatáu cyfnod ymgynghori o ychydig dros bedair wythnos, rhwng 30 Mai a 29 Mehefin.  Dylai hyn ganiatáu i’r Pwyllgor ystyried pa un ai i wahodd unrhyw dystion ychwanegol i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor ai peidio, yn wyneb y dystiolaeth ysgrifenedig a gafwyd, er y byddai’r amserlen yn dynn iawn. Dylid nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad ar y Bil drafft yn ddiweddar a daeth i ben ym mis Mawrth 2012. Mae Atodiad 2 yn rhestru’r diwygiadau a wnaed i’r Bil ers y drafft gwreiddiol.

 

12.     Bydd y dystiolaeth a gasglwyd, yn ysgrifenedig ac yn llafar, yn helpu i lywio ystyriaeth y Pwyllgor o’r Bil a’i adroddiad dilynol.

 

13.     Er gwybodaeth, mae’r Rheolau Sefydlog yn galluogi’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i gyflwyno adroddiad ar yr agweddau perthnasol ar y Bil.

Rhaglen waith

 

14.     Mae amserlen yn amgaeedig yn Atodiad 5 ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1 y Pwyllgor.

Camau i’w cymryd

 

15.     Gwahoddir y Pwyllgor i:

 

§   gytuno ar y fframwaith y bydd yn gweithio oddi mewn iddo (fel yr amlinellir ym mharagraff 7);

 

§   cytuno ar y ffordd ymlaen ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 (fel yr amlinellir ym mharagraffau 8 – 13);

 

§   cytuno ar ymarfer ymgynghori pedair wythnos, y cwestiynau ymgynghori a rhestr o ymgyngoreion (Atodiad 1 ac Atodiad 2);

 

§   cytuno ar restr dros dro o dystion (Atodiad 4);

 

§   nodi’r amserlen ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1 y Pwyllgor o’r Bil (Atodiad 5).

 

 

 

 

 

 

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Health and Social Care Committee

 

 

 

 

 

 

 

Bae Caerdydd / Cardiff Bay

 Caerdydd / Cardiff

CF99 1NA

                                                            

                              

30 Mai 2012

 

 

Annwyl Syr / Fadam

 

Ymgynghoriad ar Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)

 

Fel rhan o’i ystyriaethau Cyfnod 1, mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galw am dystiolaeth ar egwyddorion cyffredinol Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru). I gynorthwyo’i ystyriaethau, byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn am y pwnc hwn.

 

Beth yw Bil?

 

Cyfraith ddrafft yw Bil. Unwaith y bydd Bil wedi cael ei ystyried a’i basio gan y Cynulliad ac wedi cael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, mae’n dod yn ‘Ddeddf Cynulliad’.

 

Ceir proses pedwar cyfnod ar gyfer ystyried Bil. Yn ystod Cyfnod 1 bydd pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol Bil (sy’n cynnwys casglu tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar gan bartïon a rhanddeiliaid sydd â diddordeb)  a bydd y Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny.

 

Beth mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

 

Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Bil yn datgan:

 

Mae Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn gweithredu cynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd statudol yng Nghymru. Mae’r Bil yn creu gofyniad statudol ar awdurdodau bwyd i weithredu cynllun sgorio hylendid bwyd (sy’n cynnwys sgorio busnesau bwyd a gorfodi’r cynllun) ac yn rhoi dyletswydd ar fusnesau bwyd i arddangos eu sgôr hylendid bwyd yn eu sefydliadau. Bwriad y Bil yw sicrhau bod defnyddwyr yn cael yr wybodaeth am safonau hylendid bwyd busnesau bwyd yng Nghymru. Bydd hyn yn galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau mwy cytbwys ynghylch ble i fwyta neu siopa am fwyd.”

 

Beth yw swyddogaeth y pwyllgor?

 

Swyddogaeth y pwyllgor yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chyflwyno adroddiad arnynt. Wrth wneud hynny, mae’r pwyllgor wedi cytuno i weithio o fewn y fframwaith a ganlyn:

 

Ystyried:

 

i.  yr angen am Fil i gyflwyno cynllun statudol ar gyfer sgorio hylendid bwyd yng Nghymru;

ii.  a yw’r bil yn cyflawni’r dibenion a nodir;

iii.  y darpariaethau allweddol a nodir yn y Bil ac a ydynt yn briodol i gyflawni’r dibenion a nodir; 

iv.  y rhwystrau posibl o ran gweithredu’r darpariaethau allweddol ac a yw’r Bil yn eu hystyried;

v.  a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol sy’n deillio o’r Bil;

vi.  barn rhanddeiliaid a fydd yn gorfod gweithio gyda’r trefniadau newydd.

 

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei waith o graffu ar y Bil. Yn benodol, hoffem gael eich barn ar y cwestiynau yn Atodiad 1. Rydym yn gwerthfawrogi’r ffaith ei bod yn bosibl eich bod wedi cael gwahoddiad yn ddiweddar i ymateb i ymgynghoriad tebyg a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar y Bil drafft. Os ydych eisoes wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, mae croeso i chi gyflwyno’r ymateb hwnnw. Fodd bynnag, cofiwch fod y Bil wedi cael ei ddiwygio ychydig ers iddo gael ei ddrafftio’n wreiddiol a gwelir y newidiadau hyn yn Atodiad 2.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad at PwyllgorIGC@cymru.gov.uk a rhowch Ymgynghoriad – Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn y blwch Testun.

 

Neu ysgrifennwch at:

 

Claire Griffiths, Dirprwy Glerc

Y Swyddfa Ddeddfwriaeth

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai eich tystiolaeth ddod i law erbyn 29 Mehefin 2012.  Efallai na fydd yn bosibl ystyried tystiolaeth a gawn er ôl y dyddiad hwn.

 

Wrth baratoi eich tystiolaeth, cofiwch y canlynol:

 

§   dylai eich ymateb drafod y materion sydd gerbron y Pwyllgor. Cyfeiriwch at eich ymateb drwy ddefnyddio’r teitl a nodir uchod;

§   mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad cyhoeddus fel bod modd i’r cyhoedd graffu arni ac mae’n bosibl y bydd Aelodau’r Cynulliad yn cael eu gweld a’u trafod mewn cyfarfodydd Pwyllgorau. Os nad ydych am i’ch ymateb neu eich enw gael eu cyhoeddi, mae’n bwysig eich bod yn nodi hyn yn eich tystiolaeth;

§   nodwch a ydych yn ymateb ar ran sefydliad neu fel unigolyn; a

§   nodwch a ydych yn fodlon roi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr haf.

 

Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor wedi gwahodd tystiolaeth gan y rhai sydd ar y rhestr ddosbarthu atodedig (Atodiad 3). Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt ar y rhestr hon, ond a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi cael ei roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol, gyda gwahoddiad agored i gyflwyno barn.

 

Diogelu Gwybodaeth

 

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad/bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

 

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

 

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Fay Buckle, Clerc y Pwyllgor, ar 029 2089 8041 neu â Claire Griffiths, y Dirprwy Glerc, ar 029 2089 8019.

 

Yn gywir

 

 

 

 

 

Mark Drakeford AC / AM

Cadeirydd / Chair

 


 

Atodiad 1

 

Cwestiynau’r Ymgynghoriad

 

Cyffredinol

 

1. A oes angen Bil i gyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd statudol yng Nghymru? Esboniwch eich ateb.

 

2. A ydych yn credu bod y Bil, fel y mae wedi’i ddrafftio, yn cyflawni’r amcanion a nodir fel y maent wedi’u nodi yn y Memorandwm Esboniadol? Esboniwch eich ateb.

 

3. A yw adrannau’r Bil yn briodol o ran cyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd statudol yng Nghymru? Os nad ydynt, sut mae angen newid y Bil?

 

4. Sut y bydd y Mesur arfaethedig yn newid yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud ar hyn o bryd a pha effaith a gaiff newidiadau o’r fath, os o gwbl?

 

5. Beth yw’r rhwystrau posibl o ran gweithredu darpariaethau’r Bil (os o gwbl) ac a yw’r Bil yn ystyried y rhwystrau hynny?

 

Pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth

 

6. Beth yw eich barn chi ar y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (sef offerynnau statudol, gan gynnwys rheoliadau, gorchmynion a chyfarwyddiadau)?

 

Wrth ateb y cwestiwn hwn, efallai yr hoffech ystyried Adran 5 o’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys tabl sy’n crynhoi’r pwerau a ddyrennir yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud gorchmynion a rheoliadau ac ati.  

 

Goblygiadau Ariannol

 

7. Beth yw eich barn chi ar oblygiadau ariannol y Bil?

 

Wrth ateb y cwestiwn hwn, efallai yr hoffech ystyried Rhan 5 o’r Memorandwm Esboniadol (yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol), sy’n amcangyfrif costau a manteision gweithredu’r Bil.

 

Sylwadau eraill

 

8. A oes unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud ynghylch adrannau penodol o’r Bil?

 

Atodiad 2

 

 

Newidiadau a wnaed i’r Bil

 

(Dyfyniad o dudalen 13 y Memorandwm Esboniadol sy’n dod gyda’r Bil)

 

 

“33. Yn dilyn yr ymgynghoriad gwnaed rhai diwygiadau pwysig i’r Bil. Dyma nhw:

 

(a) mae busnesau sy’n cyflenwi bwyd i fusnesau eraill bellach wedi’u cynnwys o fewn sgôp y cynllun;

 

(b) bydd y Bil yn berthnasol yn unig i fusnesau bwyd sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru. Ni fydd sefydliadau busnes bwyd a gofrestrwyd y tu allan i Gymru ond sy’n masnachu dros dro yng Nghymru (h.y. masnachwyr symudol) o fewn sgôp y cynllun newydd;

 

(c) mae’n ofynnol i awdurdodau bwyd bellach baratoi rhaglen o arolygiadau o sefydliadau busnes bwyd yn eu hardal gan ystyried materion a bennir gan yr ASB - bydd y rhaglen yn penderfynu a oes angen arolygiad a pha mor aml y dylid cynnal yr arolygiadau hynny;

 

(d) cafwyd gwared ar y gofyniad i gadw’r dystysgrif hylendid bwyd, a’r tramgwydd cysylltiedig o beidio â’i chyflwyno i swyddog awdurdodedig ar gais;

 

(e) 21 diwrnod fydd y terfyn amser i fusnesau bwyd gyflwyno apêl bellach, a bydd awdurdodau bwyd hefyd yn cael 21 diwrnod i ystyried a phennu’r apêl - mae’r darpariaethau sy’n gysylltiedig ag apêl hefyd yn egluro nad oes gan weithredydd busnes bwyd yr hawl i apelio ymhellach yn dilyn penderfyniad awdurdod bwyd ar eu hapêl wreiddiol;

 

(f) mae’r darpariaethau mewn perthynas â’r hawl i ateb wedi’u gwneud yn fwy eglur a chafwyd gwared ar y terfynau amser o ran yr hawl i ateb; eglurwyd yn y Bil y gall yr hawl hon gael ei harfer fwy nag unwaith mewn perthynas ag unrhyw sgôr tra bydd y sgôr yn parhau’n ddilys;

 

(g) gwnaed y darpariaethau sy’n gysylltiedig ag arolygiadau ail-sgorio yn fwy eglur;

 

(h) mae’n ofynnol i awdurdodau bwyd roi gwybod i weithredydd sefydliad busnes bwyd am gostau arolygiadau ail-sgorio a’r modd y cafodd y costau eu cyfrifo cyn cynnal yr ail-sgorio;

 

(i) mae dyletswydd newydd ar fusnesau bwyd i ddatgelu sgôr hylendid bwyd eu sefydliad ar lafar os bydd rhywun yn gofyn iddynt, ac os gwrthodant wneud hynny mae’n dramgwydd cysylltiedig - bydd hyn yn galluogi pobl â nam ar eu golwg neu bobl sy’n gwneud ymholiadau dros y ffôn i gael gwybod beth yw’r sgôr hylendid cyn defnyddio’r sefydliad.
Atodiad 3

Rhestr Ddosbarth

 

Awdurdodau Lleol

Abertawe

Blaenau Gwent

Bro Morgannwg

Caerdydd

Caerffili

Casnewydd

Castell-nedd Port Talbot

Ceredigion

Conwy

Gwynedd

Merthyr Tudful

Pen-y-bont ar Ogwr

Powys

Rhondda Cynon Taf

Sir Benfro

Sir Ddinbych

Sir Fynwy

Sir Gaerfyrddin

Sir y Fflint

Tor-faen

Wrecsam

Ynys Môn

 

Y Sector Gwirfoddol

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched

Mudiad Ysgolion Meithrin

 

Grwpiau Cynghori

Age Cymru

Anabledd Cymru

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW)

Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru

Cyngor ar Bopeth Cymru

Cyngor Cymru i Bobl Fyddar

Cyngor Gofal Cymru

Llais Defnyddwyr Cymru

RNIB Cymru – Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall

RNID Cymru – Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar

Wales TUC Cymru

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

 

Sefydliadau Cynrychiadol

Aelodau Fforwm Rheoleiddwyr Cymru

Bar and Restaurant Foods Ltd

CBI Cymru

Consortiwm Manwerthu Prydain

Cymdeithas Arlwywyr Awdurdodau Lleol

Cymdeithas Arlwywyr Cenedlaethol

Cymdeithas Arlwywyr Ysbytai

Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain

Cymdeithas Frechdanau Prydain

Cymdeithas Genedlaethol Gwarchodwyr Plant

Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd

Cymdeithas Lletygarwch Prydain

Cymdeithas Manwerthwyr Annibynnol

Cymdeithas Manwerthwyr Annibynnol Prydain

Cymdeithas Siopau Cyfleustra

Cynghrair Bwyd Cymru

Cynghrair Twristiaeth Cymru

Cyngor Adnewyddu'r Economi

Estyn

Ffederasiwn Busnesau Bach

Ffederasiwn Bwyd a Diod

Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd

Fforwm Gofal Cymru

Llais Defnyddwyr Cymru

Sefydliad Safonau Masnach Cymru

Sefydliad Tafarnwyr Prydain

Sefydliad y Merched Cymru

Siambrau Cymru

 

Llywodraeth / Llywodraeth Leol

Asiantaeth Safonau Bwyd

Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd

Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd (Cymru

Cymdeithas Arlwywyr Awdurdodau Lleol

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Rheoleiddio Llywodraeth Leol

Y Swyddfa Masnachu Teg

 

Iechyd

Bwrdd Addysgu Iechyd Powys

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

 

Iechyd y Cyhoedd

Canolfannau Cyfun Cymru ar gyfer Iechyd y Cyhoedd

Cyfadran Iechyd y Cyhoedd

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd


Atodiad 4

 

Awgrym o bobl/sefydliadau i ddarparu tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor:

 

Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd

Llais Defnyddwyr Cymru

Ffederasiwn y Busnesau Bach

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru/Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad 5

 

Rhaglen waith

 

Dyddiad

30 Mai 2012

 

11.50– 12:30: Trafodaeth ar y ffordd y bydd y Pwyllgor yn ystyried Cyfnod 1

 

 

20 Mehefin 2012

 

11.30 – 12.30: Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

12 Gorffennaf 2012

Bore

 

10.00 – 10:45 Sesiwn Dystiolaeth 1

10:45 – 11:30 Sesiwn Dystiolaeth 2

11:30 – 12:15 Sesiwn Dystiolaeth 3

 

Prynhawn

 

13:15 – 14:00 Sesiwn 1

14:00 – 14:45 Sesiwn 2

14:45 – 15:00 Cau pen y mwdwl

 

18 Gorffennaf 2012

 

9.00 – 10.50:  Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a materion allweddol yn breifatreifat

 

Toriad yr haf

 

27 Medi 2012

 

 

Ystyried yr adroddiad drafft yn breifat

Hyfforddiant Cyfnod 2 yn breifat

 

 

3 Hydref 2012

 

 

Ystyried yr adroddiad drafft yn breifat (os na chytunir arno ar 27 Medi)